24.3.08

Y llefydd rhyfeddaf

Dwi newydd orffen darllen y bennod olaf o Y : The Last Man, sef cyfres gomics wych gan Brian K. Vaughan, awdur 32 oed o Cleveland, Ohio. Ym mhennod gyntaf Y, mae pla yn lladd pob mamal gwrywaidd ar y ddaear, ac eithrio Americanwr ifanc o'r enw Yorick Brown a'i fwnci Ampersand. Dros y 60 rhifyn nesaf, mae Yorick ac Ampersand yn teithio i bedwar ban y byd newydd benywaidd, yng ngwmni secret agent benywaidd - 355 - ac arbenigwraig mewn clonio, Dr Alison Mann. Mae Mann yn chwilio am ffordd i greu'r genhedlaeth nesaf o bobl, tra bo Yorick yn ceisio dod o hyd i'w gariad, oedd yn Awstralia pan ddaeth y pla.
Mae'n gomic gwych, yn llawn dychymyg a ffraethineb. Ond yr hyn a ddaliodd fy sylw i ynglyn a'r rhifyn olaf oedd y ddau banel canlynol. (Cliciwch ar y llun er mwyn ei wneud yn ddigon mawr i allu darllen y testun)



Sut mae bachgen o Cleveland, sy'n gweithio yn Efrog Newydd, drwy cyfrwng y Saesneg, ar gyfer cynulleidfa rhyngwladol yn dod i wybod am hen draddodiadau'r Cymry? Taswn i'n gofyn i ddwsin o fy ffrindia i, dwi ddim yn credu y byddai un ohonyn nhw'n gyfarwydd a'r traddodiad hwn, ac eto, rhywsut mae wedi gwneud argraff ar Brian K. Vaughan. Rhyfeddol.

1 comment:

Rhys Wynne said...

Mae'r draddodiad yma'n dal i fynd yn Nyffryn Clwyd, yn enwedig ymysg y gymuned amaethyddol. Mae'r ffaith bod gan ffermwyr fynediad at beiriannau mawr fel JCB ayyb yn golygu bod ambell briodfab yn deffro i weld bod mynediad i'r ffordd fawr wedi ei gau gan domen o fyrnau mawr ar fore'i briodas!