19.7.08

Ffarwel, annwyl weinidog

Wna i ddim smalio am eiliad fy mod yn drist o weld Rhodri Glyn Thomas yn mynd. Ond mae amgylchiadau ei ymadawiad yn anffodus dros ben, ac yn dweud cyfrolau am ein gwleidyddiaeth ni. Mae'n anodd gwybod beth yn union oedd y rhesymeg tu ol i'w benderfyniad, ac mae ambell un wedi awgrymu bod mwy iddi na dim ond helynt tila y sigar (ac ennillydd Llyfr y Flwyddyn). Ond beth bynnag fo'r union resymau, mae hi'n anodd gen i gredu bod 'na sgandal o sylwedd yn llechu yng nghwpwrdd trons Rhodri Glyn. Fel yn achos Alun Cairns, mae RhGT wedi gorfod gadael ei swydd am iddo wyro un fodfedd o'r llwybr arbennig o gul y mae rhai pobl yn disgwyl i'n gwleidyddion ni ei droedio.
Beth sydd yn eironig - a dwi ddim yn dymuno bod yn angharedig yn y fan hyn - yw bod 'na nifer o resymau proffesiynnol da pam na ddylai Rhodri Glyn Thomas fod yn Weinidog Treftadaeth. Onid yda ni'n byw mewn byd ben-ucha'n-isa pan mae Gweinidog yn gorfod ymddiswyddo am gerdded i mewn i dafarn yn smocio sigar, ond ddim am dorri addewid maniffesto?

1 comment:

Chris Cope said...

Baswn i'n meddwl mai indicative o ymddygiadau eraill bu'r gaffs. Efallai bod alcoholig yw fe, neu beth bynnag. Efallai bu yna rybudd tu ôl drysau caeedig ac roedd ei bresenoldeb mewn tafarn yn arwydd y bu fe wedi syrthio o'r wagon, fel petai.