24.9.09

Carchar i Ynys Mon?

Neithiwr, yn ol fy nealltwriaeth i, bu cyfarfod rhwng Peter Hain ac Albert Owen. Heddiw, mae Peter Hain yn datgan ei fod yn ffafrio Ynys Mon fel safle carchar yng Nghymru. Oes angen dweud mwy?
Mae fy nghofnod blog diwethaf wedi ennyn cryn ddiddordeb ym myd bach blogiau Gwynedd (a Chonwy) gyda Blog Menai, Gwilym Euros, Rhydian, Hogyn o Rachub a Hen Rech Flin yn rhoi sylwadau. Cael cefnogaeth gan fy ngwrthwynebwyr arferol, a gwrthwynebiad fy nghyfeillion gwleidyddol yw'r hanes - ond fe gewch ddarllen eu blogiau hwy er mwyn gweld y darlun cyfan.
Dwi yn credu bod angen i mi egluro rhyw fymrun ar fy sylwadau. Tydw i ddim am eiliad yn dadlau bod penderfyniad Llywodraeth Prydain i beidio ac adeiladu carchar yng Nghaernarfon yn reswm dros dorri Cytundeb Cymru'n Un, a ildio'n lle yn Llywodraeth Cymru. Ond mae'r penderfyniad arbennig hwnw yn dangos yn berffaith beth yw gwendidau'r glymblaid.
Roeddwn i'n amheus o glymbleidio a Llafur o'r cychwyn. Ond fe'i cefnogais am resymau pragmataidd - oherwydd fy mod i'n credu byddai clymbleidio gyda Llafur yn arwain at enillion i Gymru. Ond mae hi bellach yn dod yn amlwg fod Plaid Cymru yn cynnal breichiau y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd, ond nad yw'r Blaid Lafur yn fodlon rhoi unrhywbeth yn ol i ni? Beth ddigwyddodd i'r papur dyddiol? Lle mae'r Coleg Ffederal? Lle mae'r LCO iaith?
Nid dyma ddiwedd y rhestr. Mae 'na nifer o faterion eraill lle mae ymrwymiadau Cymru'n Un yn cael eu tanseilio gan Lafur. Rhoddwyd addewid y byddai rheolau cynllunio yn cael eu newid, er mwyn rhoi lle amlycach i'r iaith Gymraeg fel ffactor - gwantan iawn yw'r drafft ymgynghorol o TAN 20 a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Beth ddigwyddodd i'r ymrwymiad i rwystro pobl rhag prynnu tai cyngor? Llafur yn Llundain yn gwrthod cymeradwyo'r LCO. Beth am yr ymrwymiad i rwystro pobl rhag troi tai preswyl yn dai haf? Dim, unwaith eto.
Dim ond y bennod ddiweddaraf yn hanes ein perthynas gyda'r Blaid Lafur yw carchar Caernarfon. Ond mae'n dangos yn berffaith beth yw gwendidau'r berthynas honno. Yr eiliad y mae Llafur yn sylweddoli nad oes ganddyn nhw obaith o gipio sedd seneddol Arfon, maent yn awgrymu symyd 700 o swyddi newydd o'r etholaeth, i etholaeth ymylol Sir Fon. Does dim mymrun o ystyriaeth yn cael ei roi i anghenion pobl Caernarfon.
Fel rhywun sydd yn sownd mewn priodas dreisgar, mae Plaid Cymru yn dychwelyd at ei chymar yng Nghaerdydd, dro ar ol tro, er mwyn cael ei churo unwaith eto. Ers dwy flynedd bellach, rydym ni'n gweithio gorff ac enaid i gefnogi llywodraeth Rhodri Morgan, ac yn derbyn briwsion am ein ymdrechion. Mae'n bryd i ni wynebu y ffaith bod Llafur wedi methu a chadw ei bargen gyda Phlaid Cymru, a gadael y glymblaid.

2 comments:

Rhydian said...

Dim syndod am Ynys Môn... Rhaid cytuno i anghytuno ar Gymru'n Un. Nid yw'n berffaith o bell ffordd, ond yr hyn a wnaeth fy argyhoeddi iddo dros y Glymblaid Enfys oedd yr addewid o refferendwm. Fe hoffwn i barhau mewn gobaith.

Rhydian Fôn

Dyfrig said...

Mae'r Cynulliad wedi pleidleisio yn unfrydol dros gynnal refferendwm cyn 2011. O safbwynt Cymreig, felly, does dim byd yn arbennig ynglyn a chytundeb Llafur i gynnig refferendwm.
Y cwestiwn felly yw pam mor fodlon fydd Llafur yn Llundain i gynnig refferendwm? Yr hyn sydd yn amlwg i mi yw nad oes gan Llafur yn Llundain fymrun o ots beth sydd yn digwydd yng Nghymru. Pa obaith sydd 'na y bydden nhw'n cadw addewis eu cyd-aelodau yng Nghaerdydd?