18.12.09

Cyng. Dewi Owen ac Ysgol Aberdyfi

'Dyw'r Cambrian News ddim yn cyrraedd Dyffryn Ogwen, felly dwi'n ddiolchgar i Hen Rech Flin am dynnu fy sylw at y stori bach hyll hon. Yn ol pob tebyg, mae 'na rai o drigolion Aberdyfi wedi rhoi'r gorau i wartio eu harian yn siop cigydd y pentref, a hynny oherwydd fod y perchenol yn perthyn i'r Cynghorydd Dewi Owen, a bleidleisiodd i gau yr ysgol leol.
Yn gyntaf, dwi'n credu bod angen bod yn eglur ynglyn a safbwynt Dewi Owen. Yn y cyfarfod o'r Cyngor Llawn ar y 10fed o Ragfyr, digwyddodd dau beth. Yn gyntaf, cynigiodd Llais Gwynedd welliant ar gynigion y Cyngor, yn datgan y dylid cadw Ysgol Aberdyfi (a phedair ysgol arall) ar agor yn barhaol, ac fe drechwyd y cynnig hwnw. Yna rhoddodd Dewi Owen welliant pellach ger bron, a fyddai'n cadw Ysgol Aberdyfi yn unig yn agored tan 2014, er mwyn rhoi'r cyfle i niferoedd y plant gynyddu - a felly gwarchod dyfodol yr ysgol. Pleidleisiodd mwyafrif o aelodau'r Cyngor yn erbyn y cynnig hwn, gan gynnwys Llais Gwynedd.
Wedi i'r ddau welliant gael eu trechu, pleidleisiodd y Cyngor i gau Ysgol Aberdyfi. Erbyn y drydedd bleidlais hon, roedd yn berffaith amlwg fod cefnogaeth i'r argymelliad gwreiddiol. Ac yn ystod y drydedd bleidlais hon, felly, pleidleisiodd Dewi Owen i gau Ysgol Aberdyfi.
Er iddo geisio achub ei ysgol leol, mae Llais Gwynedd wedi cyhuddo Dewi Owen o fradychu ei etholwyr. Y gwir ydi bod Dewi wedi ceisio llunio cyfaddawd a fyddai'n gohirio penderfyniad. Beth bynnag fo barn rhywun o'r cynnig hwnw, dwi'n credu ei bod ymhell o fod yn frad. Ymgais oedd hyn i geisio dod o hyd i ateb realistig a pragmataidd i broblemau ysgol sydd a bron i 80% o lefydd gwag, a sydd wedi methu a chyd-weithio ac ysgol cyfagos yn y gorffennol.
Mae'r modd y mae Dewi wedi cael ei drin ar flog Gwilym Euros, yng nghyd-destun ei bleidlais wreiddiol, a stori'r siop cigydd. Yn fy ngwneud i'n wirioneddol drist. Mae Dewi yn gynghorydd cydwybodol, gweithgar, a deallus dros ben. Mae hefyd yn ddyn addfwyn a hoffus, sydd wastad yn bleser i fod yn ei gwmni. Tydi o ddim yn haeddu'r math o driniaeth y mae'n ei gael ar flog Gwilym; gan Gwilym eu hun, na'r giwed o bobl sydd yn rhy llwfr i gyhoeddi eu henwau wrth ochr eu sylwadau ymosodol.

7 comments:

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Dyfrig - Er tegwch i chdi a darllenwyr dy flog. Dylet gael dy ffeithiau yn gwbwl gywir:
" Yn ol pob tebyg, mae 'na rai o drigolion Aberdyfi wedi rhoi'r gorau i wartio eu harian yn siop cigydd y pentref, a hynny oherwydd fod y perchenol yn perthyn i'r Cynghorydd Dewi Owen, a bleidleisiodd i gau yr ysgol leol.
Yn gyntaf, dwi'n credu bod angen bod yn eglur ynglyn a safbwynt Dewi Owen. Yn y cyfarfod o'r Cyngor Llawn ar y 10fed o Ragfyr, digwyddodd dau beth. Yn gyntaf, cynigiodd Llais Gwynedd welliant ar gynigion y Cyngor, yn datgan y dylid cadw Ysgol Aberdyfi (a phedair ysgol arall) ar agor yn barhaol, ac fe drechwyd y cynnig hwnw".Mi ddaru Dewi Owen bleidleisio yn erbyn y cynnig hwnw.
"Yna rhoddodd Dewi Owen welliant pellach ger bron, a fyddai'n cadw Ysgol Aberdyfi yn unig yn agored tan 2014, er mwyn rhoi'r cyfle i niferoedd y plant gynyddu - a felly gwarchod dyfodol yr ysgol. Pleidleisiodd mwyafrif o aelodau'r Cyngor yn erbyn y cynnig hwn, gan gynnwys Llais Gwynedd". Geiriad y gwelliant oedd bod Ysgol Aberdyfi yn cau yn 2014...dyna pam ddaru ni bleidleisio yn erbyn y gwelliant doeddym ni ddim am gweld yr ysgol yn cau.
"Wedi i'r ddau welliant gael eu trechu, pleidleisiodd y Cyngor i gau Ysgol Aberdyfi. Erbyn y drydedd bleidlais hon, roedd yn berffaith amlwg fod cefnogaeth i'r argymelliad gwreiddiol. Ac yn ystod y drydedd bleidlais hon, felly, pleidleisiodd Dewi Owen i gau Ysgol Aberdyfi". Do mi wnaeth o, ac roedd o wedi cynnig ei chau hi yn 2014 fel rhan o'i "welliant" yn gynharach.
"Er iddo geisio achub ei ysgol leol, mae Llais Gwynedd wedi cyhuddo Dewi Owen o fradychu ei etholwyr. Y gwir ydi bod Dewi wedi ceisio llunio cyfaddawd a fyddai'n gohirio penderfyniad. Beth bynnag fo barn rhywun o'r cynnig hwnw, dwi'n credu ei bod ymhell o fod yn frad". Er iddo gyflwyno deiseb efo 800 enwau arno yn gwrthwynebu cau yr ysgol. Fe bleidleisiodd Dewi Owen yn erbyn gwelliant i gadw'r ysgol yn agored. Cynnigiodd Dewi Owen fod yr ysgol yn cau yn 2014 ac fe bleidleisodd o dros gau yr ysgol...dyna tri cyfle iddo gynrychioli barn ei etholwyr ac ar pob un achlysur dewisodd o i BEIDIO gwenud hynny...mae o felly wedi ei bradychu nhw, does dim amheuaeth o hynny.
"Mae'r modd y mae Dewi wedi cael ei drin ar flog Gwilym Euros, yng nghyd-destun ei bleidlais wreiddiol, a stori'r siop cigydd. Yn fy ngwneud i'n wirioneddol drist". Chwbwl ydw i wedi ei wneud ydi amlygu ymddygiad trahaus Dewi tuag at ei Etholwyr os ydi ymddygiad o'r fath yn dderbyniol gen ti...yna mi wnawn ni gytuno i anghytuno. Fedrai gydymdeimlo yn llwyr gyda rhieni'r plant a gyda mab yng nghyfraith Dewi.
"Mae Dewi yn gynghorydd cydwybodol, gweithgar, a deallus dros ben. Mae hefyd yn ddyn addfwyn a hoffus, sydd wastad yn bleser i fod yn ei gwmni. Tydi o ddim yn haeddu'r math o driniaeth y mae'n ei gael ar flog Gwilym; gan Gwilym eu hun, na'r giwed o bobl sydd yn rhy llwfr i gyhoeddi eu henwau wrth ochr eu sylwadau ymosodol".
Mater o farn ydi rhinweddau Dewi. Ynglyn a be ydw i wedi ysgrifennu ar fy mlog a barn pobol eraill ar y mater, adrodd ffeithiau ydw i, a dim mwy na hynny...pan wyt ti'n edrcyh ar y dystiolaeth i gyd, yn mae'n amlwg nad oes gan Etholwyr Dewi hyder ynddo bellach i'w cynrychioli nhw ac mae hynny yn fy nhristau i'n fwy na dy dristwch di ar y mater yma.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i ti.

Dyfrig said...

Nid adrodd ffeithiau ydi galw rhywun yn fradwr. Nid adrodd ffeithiau ydi defnyddio penawd fel "Sdwffia dy Dwrci". Ymosodiadau personol ydi'r rhain, a rhai digon ciaidd hefyd.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Tyd yn dy flaen nei di...fel newyddiadurwr..mae penawd da yn denu darllenwyr. Mae o'n gwbwl berthnasol ac yn adlewyrchu'n gywir teimladau pobol Aberdyfi os ti'n cytuno a hynny a'i pheidio.
Dwi yn meddwl fod Dewi Owen wedi bradychu ei Etholwyr,yn yr un modd ac wyt ti a dy Blaid wedi bradychu ein cymunedau gwledig drwy wneud be wanethoch chi wythnos diwethaf waeth i mi fod yn onest ac yn agored efo chi a phawb arall efo hynny. Welai ddim byd ciaidd yn hynny.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Dyfrig - Gyda llaw...ti am ymateb i'r ffeithiau cywir ddaru mi lunio yn gryno ac yn daclus i ti a dy ddarllenwyr yn fy ymateb cyntaf? Yntau anwybyddu rheini nei di fel da chi fel Plaid yn tieddu ei wneud ar fater ysgolion?

Dyfrig said...

Ymateb i'r ffeithiau?

1) Do, fe wnaeth Dewi bleidleisio yn erbyn gwelliant Llais Gwynedd. Ond roedd y gwelliant hwnw yn galw am gadw 4 o'r 5 ysgol dan sylw ar agor. Dymuniad Dewi oedd gweld Ysgol Aberdyfi yn aros ar agor yn unig. Felly roedd hi'n berffaith resymol pleidleiso yn erbyn eich gwelliant chi.

2) Roedd geiriad gwelliant Dewi ychydig yn aneglur, ond fy nealltwriaeth i oedd bod cynnig Dewi yn argymell cadw Ysgol Aberdyfi ar agor tan 2014, er mwyn gweld a fyddai'r niferoedd yn gwella.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Dyfrig - Does dim cymlethdod o gwbwl ynglyn a chynnig Dewi...ei eiriad oedd fod Ysgol Aeberdyfi yn cau yn 2014. Dyna pam ofynais iddo ail adrodd ei gynnig, dyna pam bledleisaus yn ei erbyn, dyna pam fy mod wedi ei alw'n fardwr a dyna pam nad yw pobol Aberdyfi ddim am brynu cig ganddo...does na ddim byd yn anodd i ddeallt yn fan yna rwan nagoes? ;-))

Dyfrig said...

Be oedd yr union eiriad 'ta? Does gen i ddim cofnod ohono, ac mae gen i ddiddordeb mewn gwybod, oherwydd roedd fy argraff i yn wahanol i dy un di, yn amlwg.