6.1.10

Clirio'r ucheldiroedd a Chyngor Gwynedd

Blwyddyn newydd dda, un ac oll. A hithau'n bumed diwrnod o'r mis, mae'n amlwg bod tymor ewyllys da byd blogiau Gwynedd wedi dod i ben. A'r berl hon sydd wedi tanio ergyd gyntaf 2011. Rhag i chi orfod darllen y llith cyfan, datganiad i'r wasg sydd yno, wedi ei gyfansoddi gan Owain "Now Gwynys" Williams, arweinydd Llais Gwynedd. Ynddo, mae'n cyhuddo Plaid Cymru a'r Blaid Lafur o ymddwyn fel landlordiaid trefedigaethol yr Alban yn ol yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, a fu'n gyfrifol am gymaint o ddioddefaint drwy erlid trigolion yr ucheldiroedd o'u cartrefi.
Mae Cai ar Blogmenai wedi tynnu sylw at y gagendor anferth rhwng yr hyn a ddigwyddodd yn yr Alban ganrif a hanner yn ol, a'r hyn sydd yn digwydd yng Ngwynedd heddiw. Does dim rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno ag ef, a bod y cam-ddefnydd o bennod dywyll iawn yn hanes Prydain i sgorio pwyntiau gwleidyddol yn blentynaidd ac eithafol. (Owain Williams, eithafol? Beth nesaf?)
Ond mae Alwyn ap Huw yn gwneud pwynt digon teg wrth ymateb i neges Cai. Nid y gymharieth gyda chlirio'r uchelfannau sydd yn bwysig, ond byrdwn neges Owain Williams. Y mae Plaid Cymru, yn ol Llais Gwynedd, yn arddel polisiau sydd yn fwriadol niweidiol i gefn gwlad Gwynedd. Rydym ni'n "dwysau all-lifiaid a gwanychu ymhellach gadarnleoedd yr iaith Gymraeg" i ddefnyddio eu geiriau hwy.
Y mae strategaeth etholiadol Llais Gwynedd yn gorwedd yn gyfangwbl ar berswadio etholwyr Gwynedd mae dyma sydd yn digwydd. Does dim mymrun o ots os ydi hyn yn wir neu beidio, drwy ei ail-adrodd drosodd a throsodd am y ddwy flynedd a hanner nesaf, mae Llais Gwynedd yn gobeithio y gwnaiff hi wreiddio ym meddwl yr etholwyr.
Ydi hi'n debygol o wneud hynny? Ydi, mewn ambell i ardal. Mae 'na gymunedau gwledig sydd yn teimlo o dan warchae ers dwy neu dair cenhedlaeth, a sydd yn gweld eu ffordd o fyw draddodiadol yn diflannu. Maent yn chwilio am rhywun i'w feio, ac mae gweld bai ar Blaid Cymru fawr ddrwg yn haws na wynebu realiti'r sefyllfa - sef bod dirywiad cefn gwlad yn digwydd yn bennaf oherwydd cyfres o ffactorau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd sydd ymhell tu hwnt i ddylanwad Plaid Cymru.
Yn hytrach na chynnal trafodaeth gadarnhaol, agored ac aeddfed maent yn ceisio troi popeth yn frwydr syml rhwng y da a'r drwg, gan rannu pawb yn elynion neu gyfeillion. Mae Cai wedi disgrifio hyn fel Gwleidyddiaeth yr Anterliwt ond dwi am ddewis term ychydig yn agosach at y pridd. Fe glywch chi bobl yn siarad am "blisman drama" weithia, wrth drafod heddwas gwael. I mi, Gwleidyddion Pantomeim ydi aelodau Llais Gwynedd.

DIWEDDARIAD

Mae Gwilym wedi bod draw yn darllen fy neges, ond mae'n rhaid ei fod wedi anghofio ei sbectol. Mae hi'n berl o neges. Slogan etholiadol nesaf Llais Gwynedd: "Gwyn yw Du".

No comments: